Lleoliad
CRICC Caerdydd
​
Maes Diamond
Forest Farm Road
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd, CF14 7JN
Clwb: 02920 693 552
​
Gwybodaeth
Cysylltiadau
Cadeirydd / Chairman | Eirian Davies | ||
Secretary | |||
Membership Secretary | Huw Jones | ||
Trysorydd/Treasurer | Dafydd Hampson-Jones | ||
Gemau /Fixtures Secretary | Rebecca Williams | ||
Safeguarding Officer | Rebeca Newis | ||
Social Secretary | |||
Aelodaeth | Lowri Powell | ||
Webmaster | Aled Jones |
Taliadau Tanysgrifio y Clwb
Mae CRICC yn defnyddio gwasanaeth Payzip ar-lein ar gyfer casglu taliadau tanysgrifio Clwb.
Mae'r dull hwn yn gofyn am lai o waith gweinyddol ac yn osgoi'r angen i dderbyn arian parod neu sieciau.
Bydd y Clwb yn e-bostio anfoneb blynyddol ar, neu ychydig cyn, dechrau y tymor newydd at riant/gwarcheidwad enwebedig. Ar ôl derbyn yr anfoneb trwy Payzip, gellir talu'n electronig trwy'r anfoneb.
Mae'r Clwb yn cynnig ffi tanysgrifio is i frodyr a chwiorydd. Bydd yr anfoneb yn amlygu faint fydd yn cael ei godi ar y brawd neu chwaer cyntaf a'r tâl ar gyfer brodyr a chwiorydd dilynol. Sylwch y bydd pob brawd neu chwaer yn derbyn anfoneb am y swm llawn, fodd bynnag dylai rhieni dalu'r swm llawn ar gyfer eu plentyn hynaf a'r swm gostyngol ar gyfer brodyr a chwiorydd dilynol. Bydd CRICC yn nodi'r anfonebau sydd heb eu talu'n llawn, yn croeswirio ein cofnodion mai brawd neu chwaer yw hwn ac yna'n gosod credyd yn erbyn yr anfoneb i ddangos bod y swm cywir wedi'i dalu.
All y rhai sy'n cael trafferth talu godi hyn gyda hyfforddwr tîm eich plentyn os gwelwch yn dda.
​
Côd Ymddygiad Chwaraewyr
-
Cyrrhaeddwch ar gyfer hyfforddiant a gemau mewn da bryd.
-
Trowch i fyny gyda'r cit cywir ar gyfer y gweithgaredd.
-
Cynheswch ac oerwch i lawr yn iawn bob amser.
-
Chwaraewch er mwyn cael hwyl a mwynhad – nid i blesio eich rhieni a/neu hyfforddwyr.
-
Cofiwch fod pob chwaraewr yn dod a rhywbeth gwerthfawr a gwahanol i’r tîm – mae pawb yn gyfartal yn y tîm.
-
Parchwch pobl eraill a thrin pawb gyda'r un parch a thegwch.
-
Dylid trin eraill fel yr hoffech chi gael eich trin.
-
Peidiwch â dadlau gyda swyddogion y gêm a/neu'r hyfforddwyr.
-
Byddwch yn gamp dda – ennill gyda gwyleidd-dra, colli gydag urddas. Diolchwch bob amser i wrthwynebwyr a swyddogion
ar ôl cystadlu. -
Adnabyddwcyh a chymeradwywch chwarae da.
-
Cydweithiwch gyda hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr a gwrthwynebwyr.
-
Meddyliwch am wella eich sgiliau ar ôl hyfforddi a chystadlu.
-
Rhowch wybod i'r hyfforddwyr am unrhyw anafiadau sydd gennych.
-
Rhowch wybod i'r hyfforddwyr os oes angen i chi adael yn gynnar.
-
Rhaid parchu gwahaniaethau mewn systemau rhyw, anabledd, diwylliant, hil a chred grefyddol dysgu a chwarae yn ôl y rheolau.
-
Rhaid dangos amynedd a gweithredu gydag urddas tuag at eraill bob amser.
-
Rydych chi'n ymwybodol o'ch lles eich hun a lles eraill - peidiwch â gweithredu'n anghyfrifol nac yn anghyfreithlon.
-
Dylech chi gymryd yr amser i ddiolch i'r bobl hynny sy'n eich helpu - teulu, hyfforddwyr neu'n gyd-chwaraewyr